Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Ionawr 2018
Amser:
09.30 -
12.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4611
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Richard Harries, Swyddfa Archwilio Cymru Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Coe, Swyddfa Archwilio Cymru Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Claire McDonald, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Usher, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog; Richard Harries, Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol; a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio, ynghylch y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Claire McDonald, Rheolwr Rhaglen Weithredu, Awdurdod Cyllid Cymru, ynghylch y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.
4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad o weithlu Awdurdod Cyllid Cymru o ran niferoedd, mathau o gontractau ac amrywiaeth.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Nododd y Pwyllgor fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod ei wahoddiad i ddarparu tystiolaeth lafar ynghylch trydydd adroddiad blynyddol Llywodraeth y DU ynghylch rhoi ar waith a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) Deddf Cymru 2014.
7.1 Trafododd y Pwyllgor Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 a chytunodd i gyflwyno adroddiad arnynt.
8.1 Nododd y Pwyllgor gais cyllideb atodol Comisiwn y Cynulliad a'r tanwariant rhagamcanol mewn perthynas ag arian a dynnwyd i ariannu penderfyniad y Bwrdd Taliadau.
9.1 Nododd y Pwyllgor gais cyllideb atodol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
10.1 Adolygodd y Pwyllgor y broses newydd ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft.
11.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.